jump to content

ASTUTE 2020 (Cymraeg)

Gwreiddio Technolegau Cynaliadwy Uwch ym maes Gweithgynhyrchu yng Nghymru trwy Gydweithio rhwng Diwydiant ac Academia


Bydd prosiect ASTUTE 2020 (Technolegau Gweithgynhyrchu Uwch Cynaliadwy), a arweinir gan Brifysgol Abertawe mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn cefnogi Ymchwil, Datblygiad ac Arloesedd (RD&I) diwydiannol trwy academyddion sydd ymhlith y goreuon yn y byd a thîm o arbenigwyr technegol a rheolwyr prosiect hynod gymwysedig. Mae’r prosiect pum mlynedd (2015-2020) wedi cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru a’r Sefydliadau Addysg Uwch cyfranogol. Darllen cynllun busnes ASTUTE 2020


ASTUTE 2020 – bydd y prosiectau diwydiant yn:

  • cael eu harwain gan y galw o du diwydiant
  • gorfod cynnwys Her Ymchwil sy’n perthyn i un o’n tri maes allweddol, sef Technoleg Deunyddiau Uwch, Modelu Peirianneg Gyfrifiadurol neu Beirianneg Systemau Gweithgynhyrchu
  • cynnwys Cydweithio, fel bod y cwmnïau a’r Prifysgolion yn rhannu’r mewnbynnau, yr allbynnau a’r risgiau
  • dod â budd economaidd i Orllewin Cymru a’r Cymoedd

Mae’r bartneriaeth rhwng pedwar o brif sefydliadau ymchwil Cymru yn cynnig Swyddogion Prosiect hynod gymwysedig ac arbenigedd academaidd o fri i gynnal Ymchwil, Datblygiad ac Arloesedd diwydiannol. Bydd Prifysgol Abertawe yn darparu’r arbenigedd ymchwil diweddaraf drwy’r Coleg Peirianneg, bydd Caerdydd yn cyfrannu academyddion o’r radd flaenaf ar draws tri o’i Golegau, dan arweiniad yr Ysgol Beirianneg, yr Ysgol Fusnes (ym maes Systemau Gweithgynhyrchu) a’r Ysgol Feddygol. Bydd y partneriaid ym Mhrifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn cyfrannu at y bartneriaeth gref ond hyblyg hon drwy ddarparu arbenigedd mewn meysydd allweddol lle cydnabyddir eu bod yn rhagori. Darllen mwy

Yn sgîl prosiect blaenorol ASTUTE (2010 - 2015) cafwyd llif cyson o geisiadau am gydweithio gan gwmnïau mewn amrywiaeth o wahanol feysydd technoleg. Yn unol â dull gweithredu Arbenigo Clyfar, rydym wedi nodi’r themâu arbenigedd allweddol er mwyn sicrhau effaith economaidd uchel, a bydd ASTUTE 2020 yn canolbwyntio dim ond ar y meysydd hynny o alw diwydiannol lle gallwn ni wneud defnydd penodol o’r arbenigedd sefydledig rhyngwladol, sydd ymhlith y gorau yn y byd, a geir ar draws partneriaeth Prifysgolion Cymru i ymdrin â’r anghenion Ymchwil, Datblygiad ac Arloesedd diwydiannol:

  • Technoleg Deunyddiau Uwch
  • Modelu Peirianneg Cyfrifiadurol
  • Peirianneg Systemau Gweithgynhyrchu

Datblygir cynigion ar gyfer Ymchwil, Datblygiad ac Arloesedd ar y cyd neu brosiectau trosglwyddo gwybodaeth gan y partner diwydiannol a rheolwr technegol penodedig o ASTUTE 2020 a bydd angen i brosiect gael ei gymeradwyo gan bwyllgor diwydiannol-academaidd cyn iddo fedru mynd rhagddo. Darllen mwy am y Broses o Gymeradwyo Prosiectau

Cwestiynau Cyffredin


Beth mae ASTUTE 2020 yn ei wneud? Bydd ASTUTE 2020 yn cydweithio â’r Diwydiant Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd i sbarduno twf cynaliadwy, trawsffurfiannol trwy hwyluso a dileu risgiau datblygu a mabwysiadu technolegau uwch, gan gynyddu cystadleurwydd a chadernid at y dyfodol. Darllen Mwy

Gwybodaeth Bellach