ASTUTE 2020 (Cymraeg)
Themâu Arbenigedd Allweddol
Cydweithredwch â ni
Bydd y tîm o academyddion sydd ymhlith goreuon y byd ac arbenigwyr technegol hynod gymwysedig yn gweithio gyda diwydiant i ymdrin â heriau gweithgynhyrchu er mwyn datblygu nwyddau a gwasanaethau cynaliadwy, gwerth uwch ar gyfer y farchnad fyd-eang.
Mae prosiect ASTUTE 2020 (Technolegau Gweithgynhyrchu Uwch Cynaliadwy), sy’n cefnogi cwmnïau gweithgynhyrchu ledled Cymru, wedi cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru a’r Sefydliadau Addysg Uwch cyfranogol.
Diolch yn fawr i Brifysgol Aberystwyth am 10 mlynedd o Bartneriaeth
22/11/2021
ASTUTE2020+ yn cyhoeddi y bydd Aberystwyth yn gadael y bartneriaeth rhwng sawl Prifysgol a ariannir gan yr UE wedi 10 mlynedd o gydweithio llwyddiannus, pryd y bu’n cynorthwyo busnesau ledled Cymru gydag ymchwil, datblygu ac arloesedd blaengar.
Economi Gylchol: Pwysigrwydd ailddefnyddio Cynnyrch a Deunyddiau Plastig
20/10/2021
Heddiw ni allwn ddychmygu byd heb blastig. Mae cynnyrch plastig yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i safonau byw a llesiant, ac o ganlyniad maent ym mhobman ar draws y byd. Nid y plastig ei hun yw’r broblem, fodd bynnag, ond sut mae rheoli’r defnydd ohono a’i ailddefnyddio...
Brother Industries (U.K.) Ltd. yn cyflwyno Cetris Inc a gynhyrchwyd drwy ddefnyddio Deunyddiau wedi’u hailgylchu o Gynnyrch Diwedd Oes yn sgîl Trefniant Cydweithio rhwng Diwydiant ac Academia
20/01/2021
Mae Brother Industries (U.K.) Ltd., gweithgynhyrchydd a chyflenwr nwyddau traul argraffu yng ngogledd Cymru, wedi dechrau cynhyrchu eu cetris inc cyntaf “newydd” brand Brother sydd â fframiau wedi’u mowldio 100% o ddeunydd wedi’i ailgylchu, yn sgîl trefniant cydweithio rhwng diwydiant ac academia.
Hwb o £4m i Ariannu Ymchwil y Sector Gweithgynhyrchu yng Nghymru
08/12/2020
Gall busnesau gweithgynhyrchu ledled Cymru barhau i arloesi’n flaengar yn sgîl cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru bod £4 miliwn o gyllid yn dod o’r UE. Bydd y gefnogaeth ychwanegol yn adeiladu ar lwyddiant partneriaeth ymchwil prif sefydliadau addysg uwch Cymru, a arweinir gan ddiwydiant, trwy estyn rhaglen ASTUTE 2020 (Technolegau Gweithgynhyrchu Cynaliadwy Uwch).
Diwydiant ac Academia’n Cydweithio ar Ddyfais IoT sy’n troi Cegiau Cwrw yn Gynwysyddion Clyfar ar Unwaith
26/11/2020
Mae’r trefniant cydweithio unigryw rhwng The Smart Container Company ac ASTUTE 2020 wedi defnyddio arbenigedd o fri ym maes systemau gweithgynhyrchu i ymchwilio i ddulliau o reoli lefel hylif a chanfod dichonoldeb dulliau cynaeafu ynni i roi pŵer i’r ddyfais IoT trwy ddefnyddio synwyryddion.
O’r Cyfnod Clo i Adferiad: Deall Rhyngweithio ac Effeithiau Perfformiad Cynnyrch/Prosesau trwy Ymchwil Gyfrifiadurol gydag ASTUTE 2020
17/11/2020
Mae gwella prosesau gweithgynhyrchu a chynnyrch a weithgynhyrchwyd yn aml yn galw am arbrofi. Ynghyd â dull gweithredu ‘profi a methu’ drudfawr, gall hon fod yn broses hir gyda chanlyniad ansicr. Mae Modelu Cyfrifiadurol yn offeryn hanfodol sy’n gallu cynyddu dealltwriaeth o brosesau a chynnyrch cymhleth. Yn yr erthygl hon, rydym ni’n edrych yn benodol ar Ddeinameg Hylif Gyfrifiannol (CFD) a sut gall hynny gefnogi busnes gweithgynhyrchu i ddeall prosesau a chynnyrch cymhleth.
ASTUTE 2020: Cefnogi Gweithgynhyrchu yng Nghymru trwy’r Cyfyngiadau Symud at Adferiad
31/08/2020
Os ydych chi’n gwmni gweithgynhyrchu, gallwch chi gael mynediad at arbenigwyr ymchwil Prifysgol sydd â ffocws ar ddiwydiant i gefnogi eich busnes i dyfu allan o’r cyfnod clo a meithrin gwydnwch hirdymor.... Sut gallwn ni eich cefnogi chi?
Ymateb i her y cyfyngiadau symud presennol: amser i fyfyrio, dadansoddi a gwella eich cynnyrch gweithgynhyrchu gydag ASTUTE 2020
24/06/2020
Mae ASTUTE 2020 yn canolbwyntio ar dechnolegau sy’n ymwneud â gweithgynhyrchu, ac mae ein harbenigedd academaidd a thechnegol yn defnyddio dull gweithredu amlddisgyblaeth sy’n cwmpasu ymchwil ar gylch oes cyfan y cynnyrch, fel bod modd i gwmnïau ddatblygu cynnyrch a gwasanaethau cynaliadwy trwy gymhwyso gwybodaeth, cyfarpar, deunyddiau a phobl mewn modd integredig. Gall cysylltu ag ASTUTE 2020 o bell helpu eich busnes i sbarduno syniadau ac ymdrin ag unrhyw heriau gweithgynhyrchu y gallech chi fod yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n dysgu am Ddulliau Ansawdd Cadarn a sut mae hynny’n hanfodol i effeithlonrwydd.
ASTUTE 2020 yn cydweithio â Lyte Industries (Cymru) ac maen nhw’n falch mai nhw yw un o’r ychydig gwmnïau sy’n dal i weithgynhyrchu cyfarpar mynediad fel ysgolion yn y Deyrnas Unedig
30/10/2018
Bydd cydweithrediad ASTUTE 2020 gyda Lyte Industries (Cymru), sydd wedi eu lleoli yn Abertawe, yn galluogi Lyte i ymestyn eu systemau gweithgynhyrchu i werthuso a gwella effeithlonrwydd, ansawdd a darpariaeth, gan arwain at fwy o gyllid gwerthiannau gan sicrhau dyfodol hirdymor i’r cwmni yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd.
ASTUTE 2020 yn cyd-weithio â Team Precision Pipe Assemblies ar gymharu efelychu a mapio llif gwerth ar gyfer cynllun celloedd
01/06/2018
Roedd TEAM Precision yn ceisio cefnogaeth gydweithredol gan ASTUTE 2020 i sicrhau gwell dealltwriaeth o’u galluoedd a’u capasiti gweithgynhyrchu presennol, a ffyrdd o ganfod gwelliannau posibl.
ASTUTE 2020 yn cydweithio â Kautex Textron ar batrymau llif hylif trwy micro-ffroenellau
09/05/2018
Yn dilyn cyfres o brosiectau cydweithio llwyddiannus yn ystod cyfnod ariannu ASTUTE yn 2010 – 2015, llwyddodd Kautex i ddefnyddio’r wybodaeth a gafwyd o’r prosiectau blaenorol i ddatblygu dau o’u dyluniadau eu hunain ar gyfer ffroenellau. Er mwyn cynyddu dealltwriaeth Kautex ymhellach o baramedrau allweddol y ffroenellau, cynhaliwyd prosiect ar y cyd ar batrymau llif yr hylif gydag ASTUTE 2020.
Gwaith ar y cyd rhwng ASTUTE 2020 a Weartech International i ddatblygu capasiti ymchwil i aloeon aml-gydran gwrth-draul – dull cyfrifiadurol
25/04/2018
Nod y prosiect ar y cyd ag ASTUTE 2020 yw cefnogi uchelgais Weartech, sef cynyddu eu cyfran o’r farchnad (cynnydd o hyd at 30% ar archebion), fel bod y cwmni’n cyrraedd trosiant posibl o £15 miliwn yn y dyfodol.
Gwaith ar y cyd rhwng ASTUTE 2020 a Weartech International i ddatblygu’r capasiti ymchwil i aloeon aml-gydran gwrth-draul – dull microstrwythur
25/04/2018
It is expected that through engagement and collaboration with ASTUTE 2020, Weartech’s advanced manufacturing knowledge will increase, alongside certain improvements, be applied more widely to production, providing additional gains for Weartech.
Gwaith ar y cyd rhwng ASTUTE 2020 a Frontier Medical Group yn archwilio datblygiad methodoleg i hybu cystadleuaeth ym maes mowldio chwistrellu
29/03/2018
Yn dilyn cydweithio llwyddiannus rhwng Frontier ac ASTUTE (2010 – 2015) ar Repose® a ffocws parhaus Frontier ar barhau’n gystadleuol, defnyddio deunyddiau newydd ac optimeiddio prosesau, rhychwantwyd prosiect Ymchwil a Datblygu (R&D) ar y cyd ag ASTUTE 2020.
Hwb o £8m gyda chefnogaeth yr UE i sbarduno ymchwil arloesol i gefnogi'r diwydiant gweithgynhyrchu
16/02/2018
Heddiw, [16.02.18] dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, y bydd busnesau gweithgynhyrchu Cymru yn elwa ar £8m yn ychwanegol i ehangu cynllun i'w helpu i gael mynediad at arbenigedd o'r radd flaenaf er mwyn datblygu cynhyrchion a gwasanaethau arloesol newydd.
Nod cydweithrediad ASTUTE 2020 gydag ALC oedd adnabod yn fanylach sut mae colofn oleuo’n perfformio
04/10/2017
Yn dilyn ymlaen o drefniadau cydweithio llwyddiannus yn ystod cyfnod ariannu ASTUTE yn 2010-2015, nod y cydweithio rhwng ASTUTE 2020 ac ALC oedd nodi’n fanylach union berfformiad colofn oleuo mewn amser go iawn, yn erbyn y lefel o berfformiad a ragfynegwyd.
ASTUTE 2020 in collaboration with Marine Power Systems Ltd. on their clean, Reliable and Affordable Wave Power Technology
14/09/2017
ASTUTE 2020 is working with MPS on generating suitable computational models using information supplied by MPS along with performing finite element analysis on the structure.
Bydd cydweithrediad ASTUTE 2020 gyda Calon yn galluogi profion clinigol â Dyfais Cymorth Fentrigol gyntaf y DU
17/07/2017
Sefydlwyd Calon Cardio yn 2007 ac mae’n rhan o’r Sefydliad Gwyddorau Bywyd ym Mhrifysgol Abertawe. Mae Calon Cardio yn datblygu’r genhedlaeth nesaf o bympiau gwaed mewnblanadwy ar gyfer trin methiant cronig datblygedig yn y galon, y MiniVAD™, Dyfais Fechan Cymorth Fentriglaidd.