
Ymatebwch i her y cyfyngiadau symud presennol: Rheolwch eich rhagolygon a'ch stocrestrau o bell gyda chymorth ASTUTE 2020
19/05/2020
Drwy weithio'n agos gyda diwydiant, mae ASTUTE 2020 yn sicrhau bod pob ymchwil yn berthnasol ac yn ystyrlon i'r cwmnïau rydyn ni'n cydweithio â nhw. Drwy ganolbwyntio ar ymchwil gymwysedig mae modd i ni gyfrannu at anghenion y rhanbarth lleol trwy ein trefniadau cydweithio, sy'n darparu mynediad at gyfleusterau ac arbenigedd o'r radd flaenaf ym maes peirianneg systemau gweithgynhyrchu. Mae sicrhau bod gan eich busnes strategaeth dda o ran rhagolygon a stocrestrau yn bwysicach nag erioed; gall sut byddwch yn rheoli'r strategaeth hon wneud gwahaniaeth mawr i'ch busnes. Mae tîm ASTUTE 2020 ar gael i ddarparu cymorth o bell yn ystod y cyfnod heriol hwn. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n edrych ar Ragolygon a Rheoli Stocrestrau, sut mae cwmnïau'n cryfhau eu systemau gweithgynhyrchu a sut gallwn ni eich helpu chi i sicrhau eglurder, rheolaeth a hyder wrth ddatblygu strategaeth gynaliadwy ar gyfer rhagolygon a stocrestrau.
Rhagolygon a rheoli stocrestrau - beth yw'r rhain a sut mae eu defnyddio ym maes gweithgynhyrchu?
Mae rhagweld galw yn golygu amcangyfrif y galw am gynnyrch yn y dyfodol i greu sylfaen ar gyfer cynllunio a gwneud penderfyniadau busnes. Nod rhagolygon yw paru cyflenwad a galw - gan sicrhau cydbwysedd rhwng yr hyn mae eich cwsmeriaid am ei brynu a'r gweithgynhyrchu a'r stocrestr sy'n ofynnol er mwyn ateb y galw. Ar ben hynny, gellir eu defnyddio i benderfynu ar brisiau, i bennu gofynion capasiti yn y dyfodol neu hyd yn oed i asesu a ddylid ymuno â marchnad newydd.
Mewn cwmni gweithgynhyrchu, mae'n bosib taw'r stocrestr yw un o gydrannau mwyaf pendant a gweladwy'r busnes, boed yn ddeunyddiau crai neu'n gynnyrch gorffenedig. Mae rheoli stocrestrau’n seiliedig ar gadw lefelau priodol o stoc yn y busnes a sicrhau bod cwmnïau'n gallu darparu'r nifer cywir o nwyddau a gwasanaethau o'r ansawdd cywir am y pris cywir yn yr amser cywir.
Pam mae rhagolygon a rheoli stocrestrau yn bwysig i gadwyn gyflenwi gweithgynhyrchu?
Mae rhagolygon yn hwyluso swyddogaethau craidd busnesau, fel cyllidebu, gwerthu a marchnata, cynllunio deunyddiau crai, a chynllunio cynnyrch, wrth reswm; yn sylfaenol, nid oes cadwyn gyflenwi heb stocrestr.
Gall rhagolygon da ynghylch y galw ddarparu gwybodaeth allweddol ar gyfer pennu'r lefelau dymunol o stoc o ran deunyddiau crai, cynnyrch ar waith a nwyddau gorffenedig. Mae hyn yn helpu i leihau'r effaith chwipio a all darfu ar gadwyn gyflenwi gyfan gweithgynhyrchu, fel bod modd optimeiddio lefelau'r stocrestrau a lleihau sefyllfaoedd lle bydd gormod o stoc neu ddim digon o stoc, a thrwy hynny wella gwasanaeth cwsmeriaid a lleihau costau.
Pa gyfleoedd a heriau sydd wrth ymgorffori'r systemau cynllunio cynhyrchu hyn?
Gall trefniadau da o ran rhagolygon a rheoli stocrestrau gynnig llawer mwy na chyfle i ddarparu gwasanaeth da i gwsmeriaid, gallan nhw ddarparu llawer o fanteision o ran gweithredu a'r gadwyn gyflenwi.
- Defnyddio'r capasiti cynhyrchu yn well: Drwy ragweld y galw a defnyddio'r stocrestr bresennol a'r wybodaeth am y deunyddiau crai sydd ar gael, bydd modd llunio amserlen fwy priodol ar gyfer y gwaith cynhyrchu.
- Gwella lefelau stocrestrau: Mae rhagweld y galw yn fodd i optimeiddio lefelau’r stocrestrau a lleihau sefyllfaoedd lle nad oes stoc neu lle mae gormod o stoc.
- Gwella gwasanaeth cwsmeriaid: Pan fydd lefelau stocrestrau wedi'u hoptimeiddio, mae modd gwella trefniadau dosbarthu a logisteg sydd, yn eu tro, yn fodd i gyflawni mesuriadau gwasanaeth cwsmeriaid fel cyflenwadau llawn mewn pryd (DIFOT) oherwydd bod y cyflenwad cywir o stoc ar gael yn y mannau cywir.
- Gwell cysylltiadau â chyflenwyr: Rhagweld y galw sy’n gyrru'r broses cynllunio deunyddiau crai sy'n fodd i'r Rheolwyr Prynu ryddhau cynlluniau prynu amserol i gyflenwyr.
- Telerau a phrisiau gwell ar gyfer deunyddiau: Gall gwella gwelededd a thryloywder y galw am ddeunyddiau fod yn gyfrwng i sicrhau telerau mwy ffafriol gan gyflenwyr.
Fodd bynnag, gan fod pob cwmni'n delio gyda dyfodol anhysbys ac ansicr, bydd yna wahaniaeth rhwng y rhagolygon a'r union alw. Yr her allweddol, felly, wrth lunio rhagolygon yw defnyddio technegau priodol er mwyn lleiafu’r gwahaniaeth rhwng yr union alw a'r rhagolygon gymaint â phosibl. Gan fod rhagolygon yn ceisio rhagweld y dyfodol, mae gofyn ystyried ffactorau sy'n dylanwadu ar y galw, effaith y rheiny ac a fyddan nhw'n parhau i ddylanwadu ar y galw yn y dyfodol, wrth ddatblygu rhagolygon manwl gywir. Gan hynny, mae arweiniad arbenigol wrth ddefnyddio'r technegau hyn yn allweddol ac mae modd ei gael trwy ASTUTE 2020.
Sut gall eich cynhyrchu elwa o drefniadau cydweithio o bell - llunio rhagolygon a rheoli stocrestrau gyda chymorth ASTUTE 2020
Caiff rhagolygon a rheoli stocrestrau eu gyrru i raddau helaeth gan ddata a meddalwedd. Drwy ddarparu mynediad at arbenigwyr mewn peirianneg systemau gweithgynhyrchu, gall ASTUTE 2020 helpu i wella'r defnydd o adnoddau yn y broses weithgynhyrchu ac wrth reoli cadwyn gyflenwi nwyddau a gwasanaethau. Mae trefniadau cydweithio'n allweddol o ran adeiladu busnesau cydnerth a chadwyni cyflenwi sy'n gallu ateb a goresgyn yr heriau sy'n wynebu'r diwydiant gweithgynhyrchu yn yr unfed ganrif ar hugain; mae tîm ASTUTE 2020 yma i'ch cefnogi chi ac yn gallu gwneud hynny o bell.
Sut mae arbenigedd ASTUTE 2020 mewn systemau rhagolygon a rheoli stocrestrau yn mynd i wella cynhyrchiant busnesau yn y sector gweithgynhyrchu?
Mae gan ASTUTE 2020 fynediad at arbenigwyr blaenllaw sydd wedi ennill gwobrau yn y maes, gan gynnwys rhai sy'n hyddysg mewn rhagolygon cadwyni cyflenwi ar sail ystadegau a barn, rheoli stocrestrau ar sail ystadegau a llunio rhagolygon mewn cadwyni cyflenwi dolen gaeedig/ailweithgynhyrchu.
Astudiaethau Achos/Prosiectau
BCB International Ltd. - Systemau Gweithgynhyrchu a Chadwyni Cyflenwi Effeithlon a Chadarn
Mae cwmni BCB International wedi gweld cynnydd yn y galw am eu cynnyrch ac maen nhw wedi symud i gyfleusterau newydd yng Nghaerdydd. Bydd y trefniadau cydweithio ag ASTUTE 2020 yn hollbwysig wrth i'r cwmni gyflawni ei dargedau twf yn y dyfodol trwy wella cadernid eu systemau gweithgynhyrchu a'u cadwyni cyflenwi.
Markes International Ltd. - Systemau Gweithgynhyrchu a Chadwyni Cyflenwi Cadarn
Mae astudiaeth achos lawn ar ein trefniadau cydweithio â Markes International ar gael yn https://www.astutewales.com/cy/case-studies.htm?id=94
Reid Lifting Limited - rhagolygon a rheoli stocrestr Reid Lifting
Mae galw cynyddol am offer Reid Lifting ar y llwyfan rhyngwladol ac mae'r cwmni wedi lleoli ei ystod o gynnyrch yn llwyddiannus ers rhai blynyddoedd er mwyn manteisio ar y farchnad hon. Bydd rôl allweddol i’r trefniadau cydweithio ag ASTUTE 2020 wrth i'r cwmni gyflawni ei dargedau twf, trwy wella cadernid ei systemau gweithgynhyrchu, rhagolygon a stocrestrau.
Gall ASTUTE 2020 gefnogi cwmnïau gweithgynhyrchu ar draws amrywiaeth o sectorau, megis awyrofod, moduron, cynhyrchu ynni, olew a nwy, dyfeisiau meddygol, electroneg, bwydydd, ac ati, a rhoi hwb i dwf trwy gymhwyso technolegau peirianneg uwch i heriau gweithgynhyrchu, gan sbarduno ymchwil flaengar ac arloesedd. Mae trefniadau cydweithio ASTUTE 2020 yn ysbrydoli cwmnïau gweithgynhyrchu i wella a lliflinio eu prosesau gweithgynhyrchu, eu cynnyrch gweithgynhyrchu a’u cadwyn gyflenwi, gan greu nwyddau a gwasanaethau cynaliadwy, gwerth uwch, a’u cyflwyno i farchnad fyd-eang.
Mae rhaglen ASTUTE 2020 wedi cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru a’r Sefydliadau Addysg Uwch sy’n rhan ohoni.